Disneyland® Resort Paris

Mae ymweliad â Disneyland® Resort Paris yn ffordd wych o gyfuno hwyl gydag addysg. Mae Disney wedi datblygu tri phecyn gwaith sydd yn cwmpasu ystod eang o bynciau y gellir ei lawrlwytho o’u gwefan newydd: www.disneylandparis4schools.com. Mae’r pecynnau wedi eu cynllunio i gefnogi Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a Lloegr ar gyfer CA3, ond gellir eu haddasu ar gyfer disgyblion iau. Yn ogystal â gweld byd hudol Disney yn dod yn fyw trwy orymdeithiau ac atyniadau Disneyland ® Park, gall grwpiau gynnwys Walt Disney Studios® Park yn eu hymweliad, a chael cyfle i fynd fynd tu ôl i’r llenni a gweld sut y caiff effeithiau arbennig eu creu ar gyfer ffilmiau, teledu a gwaith animeiddio. Yna, beth am orffen eich diwrnod o antur gyda’r sioe Buffalo Bill’s Wild West Show? Mae hyd yn oed gyfle i roi naws Cymreig i’ch ymweliad â’r parc, gan fod gŵyl Gymreig yn cael ei threfnu yno bob blwyddyn.

Ym mharc Walt Disney Studios, gallwch weld sut mae effeithiau arbennig yn cael eu creu ar gyfer teledu, ffilm ac animeiddio. Cewch weld yr atyniadau mwyaf newydd a gafodd eu hysbrydoli gan y cynhyrchiadau Disney/Pixar enwog, ‘Finding Nemo’ a ‘Cars’, neu fynd ar daith ar y Studio Tram i gael gwir brofiad o sut y caiff ffilm Disney ei gynhyrchu.

Gallwch brynu tocyn Disney Park Hopper un diwrnod neu ddau ddiwrnod ac un ai ymweld â Disneyland Park a’r Walt Disney StudiosPark ar yr un diwrnod, neu aros am ddau ddiwrnod ac ymweld â’r parciau ar ddiwrnodau gwahanol.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am brisiau tocynnau, sioeau a phecynnau addysgol.