Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Caerllion

    Caerllion oedd un o ddim ond tair caer barhaol ym Mhrydain yn oes y Rhufeiniaid, a hi oedd cadarnle bellaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Lleolir yr amgueddfa yn yr hyn sy'n weddill o'r gaer, sy'n cynnwys yr amffitheatr fwyaf cyflawn ym Mhrydain, a'r unig weddillion o farics y Lleng Rufeinig yn Ewrop. Yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru byddwch yn dysgu pam fod y Rhufeiniaid yn rym mor effeithiol a sut y bu iddyn nhw ddylanwadu cymaint ar y byd cyfoes. Byddwch yn gweld casgliad mawr o eitemau sy'n dangos arferion byw, ymladd, addoli a marw'r Rhufeiniaid.

     

    Cyfunwch y daith hon gydag ymweliad â Sba Caerfaddon (tua ¾ awr o safle Caerllion) er mwyn cael profiad cyfoes o drochi a hamdden yn oes y Rhufeiniaid


    Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Mae pwll Big Pit ar gyrion Blaenafon, tref a oedd yn hollbwysig yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Gyda'r Chwyldro, trawsnewidiwyd tirlun, diwylliant a chymdeithas yng Nghymru, gweddill Prydain a'r byd. Mae'r ymweliad yn dechrau gyda thaith 300 troedfedd (90m) i lawr y siafft yn y gawell yng nghwmni glowr profiadol. Mae'r ymweliad hefyd yn cynnwys adeiladau gwreiddiol 'Big Pit', gan gynnwys Baddonau Pen y Pwll, yr Efail a'r Stablau. Mae cyflwyniad clyweledol diddorol yn disgrifio bywyd fel glowr ac yn dangos y dulliau gwahanol o gloddio am lo dros yr oesoedd.

    Hyd yr ymweliad: 3-4 awr

    Nodyn pwysig: Mae'n rhaid i ddisgyblion fod dros bump oed ac yn fetr o daldra er mwyn cael mynd o dan y ddaear.


    Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Dyma un o amgueddfeydd awyr agored gorau Ewrop a dyma'r atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Mae'r amgueddfa'n dangos sut y bu pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn hamddena dros y 500 mlynedd diwethaf. Mae dros 40 o adeiladau gwreiddiol ar y safle can erw, ac maent wedi dod yma o bob cwr o Gymru. Mae'r adeiladau'n cynnwys ysgol, capel a Sefydliad y Gweithwyr. Mae yma hefyd nifer o weithdai ble gellir gweld crefftwyr traddodiadol wrth eu gwaith ac yn gwerthu eu cynnyrch i'r cyhoedd. Tu mewn i rai o'r adeiladau mae arddangosfeydd yn dangos dillad, bywyd bob dydd ac offer ffermio. Mae bridiau cynhenid o dda byw i'w gweld yn y caeau ac ar fuarth y fferm. Dyma gyfle gwych i ddysgu am dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru. Mae'r crefftwyr ac aelodau staff yr Amgueddfa'n siarad Cymraeg.


    Cadeirlan Llandaf

    Mae'n werth ymweld â'r eglwys gadeiriol odidog hon i'r gogledd o'r ddinas. Gallwch eistedd ar y glaswellt yng nghanol y pentref ac arlunio, neu fynd i mewn i'r eglwys gadeiriol ac edrych ar yr amrywiaeth o waith celf, gan gynnwys Had Dafydd gan Rossetti a cherflun alwminiwm trawiadol Syr Jacob Epstein o'r Iesu.


    BBC Cymru

    Bydd eich taith o amgylch Canolfan BBC Cymru yn para tua 1.5 awr. Bydd tywysydd gwybodus yn mynd â chi i'r stiwdios teledu a radio ac ar hyd strydoedd enwog Pobol y Cwm, gan ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Hwyrach y byddwch yn ddigon ffodus i weld ambell seren deledu!


    Celf Cymreig Modern

    Mae Caerdydd yn gartref i gyfoeth o orielau sy'n arddangos paentiadau, ffotograffau a chrefftau artistiaid ifanc addawol o Gymru. Gallai taith i Gaerdydd gyda'ch grŵp celf gynnwys ymweliad ag oriel Canolfan Gelfyddydau'r Chapter, Crefft yn y Bae, Oriel G8 neu gyntedd Neuadd Dewi Sant sy'n cynnal cystadleuaeth flynyddol i anrhydeddu'r arlunydd gorau yng Nghymru.


    Castell Caerdydd

    Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau canol y ddinas, ac wrth fynd ar daith o'i amgylch byddwch yn dod i ddeall sut mae wedi dylanwadu ar hanes Caerdydd.

    Os yw eich grŵp yn astudio'r cyfnod Rhufeinig, Normanaidd neu Fictoraidd, mae adran addysg Castell Caerdydd yn darparu ystafelloedd dosbarth ac arteffactau i helpu eich grŵp i astudio gwisgoedd, arfau ac offer tŷ'r cyfnodau hyn yn fanwl. Gall plant iau wisgo dillad gweision y tŷ neu wisgo'r crys mael neu'r helmedau Rhufeinig.

    Mae'r castell yn enghraifft ragorol o ganrifoedd o gynllunio pensaernïol, o'r waliau Rhufeinig, y Tŵr Normanaidd, y ty Sioraidd a Thŵr y Cloc Fictoraidd. Yn ystod y daith fe gewch gyfle i weld enghraifft wych o hoffter pobl o oes Fictoria o ail-greu nodweddion y Canol Oesoedd. Mae tiroedd y castell yn lle gwych i eistedd ac arlunio Tŵr y Cloc, y Tŵr Normanaidd, neu hyd yn oed y peunod!

    Gellir defnyddio canolfan addysg y castell i gynnal gwers arlunio bywyd llonydd, gan fanteisio ar yr arfwisgoedd, y gwisgoedd a'r arfau i ysbrydoli'ch grŵp


    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Saif yr Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol Canolfan Ddinesig hyfryd Caerdydd. Mae yno lond gwlad o wahanol arddangosfeydd ar gelf, hanes, hanes Cymru, pensaernïaeth a daeareg yn ogystal â rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd dros dro. Mae'r oriel ryngweithiol yn cynnig cyfle i chi edrych ar yr hyn sydd ar gael, gofyn cwestiynau a dod o hyd i'r atebion gydag ychydig o help gan aelodau staff yr amgueddfa. Y Byd Naturiol: Dilynwch daith ryfeddol Cymru o ddechrau amser hyd heddiw. Dechreua'r hanes gyda'r glec fawr ac mae'n mynd â chi ar daith 4,600 miliwn o flynyddoedd. Darganfyddwch sut y newidiodd bywyd yng Nghymru, pam fod yma unwaith hinsawdd is-drofannol a pha ddeinosoriaid oedd yn byw yma. Archaeoleg: Darganfyddwch gyfrinachau'n cyndadau, sy'n cynnwys pethau mor amrywiol â hanes y dynion cynharaf oedd yma chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl, hanes Cymru yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid a gwrthryfel Owain Glyndwr. Mae eitemau bob dydd a gemwaith hynod gain yn help i chi ddeall hanes Cymru ac i weld cysylltiadau â'r gorffennol. Yr amgylchfyd: Cyfle i weld crwban lledrgefn mwya'r byd a nyth o 55,000 o forgrug deildorrol byw. Mae'r arddangosfa yn gyfle i ystyried ein perthynas ni gyda byd natur a'r effaith y mae pobl yn ei gael ar yr amgylchedd.

    Mae casgliad Celf yr Amgueddfa Genedlaethol yn un o'r goreuon yn Ewrop. Mae'n cynnwys paentiadau, lluniau, cerflunwaith, eitemau arian a cherameg hynod o drawiadol sy'n rhychwantu 500 mlynedd. Mae'r eitemau'n dod o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys gweithiau gan Monet, Renoir a Cezanne. Yn wir, mae yma gasgliad heb ei ail o weithiau'r Argraffiadwyr.

    Nodyn pwysig: Mae nifer o orielau ar gau oherwydd gwaith adnewyddu i ddathlu canmlwyddiant yr amgueddfeydd yn 2007. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth


    Taith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm

      Hon fydd uchafbwynt y daith i'r rheiny yn eich plith sy'n hoff o chwaraeon. Wedi cyflwyniad byr ynglŷn â'r stadiwm ei hun, cewch gyfle i weld yr ystafelloedd newid, y cae, ardal y wasg, blychau croesawu a'r bocs brenhinol. Mae'r daith yn para awr ac mae'r ymweliad ar gael yn Gymraeg.


      Canolfan y Ddraig Goch (Red Dragon Centre)

      Mae'r ganolfan hon ym Mae Caerdydd yn lle gwych i dreulio gyda'r nos. Gallwch ddewis rhwng Bowlio 10, chwarae snwcer a gemau eraill, mynd i'r sinema neu gael pryd o fwyd yn un o'r bwytai.


      Taith ar gwch

      Gallwch ymweld â'r ardal o gwmpas Bae Caerdydd ar gwch. Dyma ffordd wych o ddysgu am bensaernïaeth a datblygiad yr ardal, o'i dyddiau fel porthladd rhyngwladol prysur hyd heddiw. Gallwch edmygu'r datblygiadau pensaernïol a ddaeth yn sgil datblygu'r Bae, yn ogystal ag ymweld â'r morglawdd a dysgu am effeithiau'r datblygiad ar yr amgylchedd.


      Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt

      Enw ardal Bae Caerdydd yn wreiddiol oedd Tiger Bay, ac ar un adeg roedd yn gartref i gymuned amlhiliol fwyaf ac enwocaf Ewrop. Mae'r ganolfan wedi bod yn archifo ffotograffau, cyfweliadau fideo a hanesion mewnfudwyr sydd wedi helpu i lunio'r Gymru gyfoes trwy eu cyfraniad i'r diwydiant llongau, y chwyldro diwydiannol a'r ddau ryfel byd. Y nod yw cofnodi hanes y bobl leol ac addysgu'r genhedlaeth nesaf. Gallai ymweliad â'r amgueddfa gynnwys taith ar gwch o amgylch y Bae, taith gerdded o amgylch y Bae, cyfle i ddefnyddio archifau rhyngweithiol yr amgueddfa a sesiwn hanes llafar anffurfiol gyda phobl sydd wedi byw yn Nhre Bute ar hyd eu hoes. Mae'r meysydd o ddiddordeb yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, celf, gwyddoniaeth, dinasyddiaeth, cymdeithaseg a datblygu ac adfywio trefol. Mae themâu ar gyfer teithiau cerdded yn cynnwys glan y dŵr, y ganolfan fasnachol Fictoraidd a'r Morglawdd. Mae'r ganolfan yn cynnig sioeau sleidiau hefyd. Mae themâu'n cynnwys 'From Pithead to Pierhead - the story of the Welsh Coal trade', 'Blitz over the Bay - the story of Cardiff docklands at war' a 'The Pierhead Building - the story of Cardiff Bay's icon building.' Ar hyn o bryd mae'r ganolfan yn arddangos 'It's already in the wood' - cerflunwaith Affro-Gymreig Raymond Charles Taylor. Cysylltwch â ni am restr o ddigwyddiadau. Mae amseroedd agor yn amrywio, gan ddibynnu ar natur yr ymweliad.


      Techniquest

      Bydd yr amgueddfa wyddoniaeth ryngweithiol hon yn ennyn chwilfrydedd pawb, gan gynnwys pobl heb ronyn o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Mae'r amrywiaeth o ymweliadau sydd ar gael wedi eu seilio ar wahanol themâu ac maent yn addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 i 4. Mae gweithgareddau hefyd ar gyfer plant iau a disgyblion dros 16. Mae'r arddangosfeydd perthnasol wedi eu dangos yn glir fel bod grwpiau'n gallu dilyn llwybr o gwmpas yr amgueddfa. Mae pob grŵp yn cael cyfle i weld cyflwyniad bywiog yn y Theatr Wyddoniaeth neu'r Planetariwm, wedi ei seilio ar wahanol agweddau o ba bynnag thema ry'ch chi'n ei dewis. Mae hefyd yn bosib mynd ar daith gyffredinol i weld pob dim sydd ar gael. Hyd yr ymweliad : ½ diwrnod


      Canolfan Mileniwm Cymru

      Dyma adeilad modern mwyaf trawiadol Cymru. Mae'r ganolfan yn cynnig rhaglen addysgol o'r radd uchaf, ac mae wedi ei hanelu at ofynion y cwricwlwm ym mhob Cyfnod Allweddol. Gellir trefnu taith dywys o gwmpas yr adeilad yn ogystal â gweithdy a sioe am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan. Bydd cyfle hefyd i ddisgyblion gael amser i archwilio anturCelf, oriel ryngweithiol y ganolfan. Cliciwch yma i weld rhestr gyflawn o'r gweithdai a'r sioeau cyfredol. Gellir trefnu gweithdy i ddysgu am y pensaer a ddyluniodd y ganolfan a'r bardd a gyfansoddodd yr arysgrif, gweithdy am gerddoriaeth a gwisgoedd cyfnod y Tuduriaid, neu weithdy dylunio eich offeryn eich hun gan ddarganfod synau newydd. Mae pris a hyd yr ymweliad yn amrywio yn ôl yr hyn a ddewiswch. Mae modd hefyd i chi logi ystafell o fewn y ganolfan i fwyta'ch cinio.

      Rhaglenni addysgol ar gyfer lefelau BTEC, GNVQ a Safon Uwch:

      Celfyddydau Perfformio:

      Bydd y grŵp yn cael taith dywys o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru, ac yna sgwrs gydag aelodau staff o'r adrannau Rhaglennu, Marchnata ac Ariannol.

      Astudiaethau Busnes/Twristiaeth a Hamdden:

      Bydd y grŵp yn cael taith dywys o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru cyn cael sgwrs gydag aelodau o staff o'r adrannau Recriwtio, Marchnata a Gwasanaethau Cwsmeriaid.

      Astudiaethau Theatr:

      Cysylltwch â ni i gael manylion am yr hyn sydd ar gael i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr gan mai dim ond ar adegau penodol yn y flwyddyn y maen nhw ar gael.

      Daearyddiaeth:

      Diwrnod Daearyddiaeth : Tirwedd y Bae. Cyfle i ddysgu am dirwedd Bae Caerdydd, sy'n prysur newid yn sgil datblygiadau newydd yn yr ardal. Cyfnod Allweddol 1 a 2 - cyfle i weld yr effaith y mae pobl yn ei gael ar yr amgylchedd a pha gynlluniau sydd mewn lle i warchod yr amglychedd yn y dyfodol. Cyfnod Allweddol 3 a 4 - Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y newid cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal, yn ogystal â phrosesau a phroblemau amgylcheddol dynol.


      Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

        Saif Senedd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd, mewn safle gwych ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, dafliad carreg o Ganolfan y Mileniwm a gweddill atyniadau'r Bae. Cafodd yr adeilad ei gynllunio gyda'r bwriad o adlewyrchu meddylfryd agored a thryloyw. Mae taith dywys o gwmpas yr adeilad yn cynnwys ymweliad â'r Siambr. Gall staff y Cynulliad hefyd drefnu gweithdai a gweithgareddau megis etholiadau ffug yn unol â'r hyn yr hoffech chi ganolbwyntio arno.