Chwarel Llechwedd

Mae ymweliad â chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog yn un bythgofiadwy. Nid yn unig oherwydd ei leoliad unigryw yng nghanol mynyddoedd llechi trawiadol Blaenau Ffestiniog ond hefyd oherwydd y profiadau a gewch yn ystod yr ymweliad. Cewch eich hebrwng ar drân tanddaearol i grombil y mynydd a�ch tywys o amgylch yr ogofau tanddaearol. Ar ddiwedd eich ymweliad, cewch y cyfle i weld sut oedd y chwarelwyr yn byw yn y pentref sydd wedi ei adnewyddu i ddangos sut oedd bywyd tra roedd y diwydiant llechi yn ei anterth.


Y Lôn Goed

Beth am daith gerdded yn yr ardal "sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan" a fu'n gymaint o ysbrydoliaeth i R Williams Parry?


Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn cynnig gweithdai a chyrsiau ysgrifennu i grwpiau o ysgolion. Gallwn drefnu gweithdai gyda beirdd a llenorion enwog a fyddai'n cyd-fynd gyda�ch ymweliadau yn yr ardal, megis gweithdy ar waith R Williams Parry neu T H Parry Williams er enghraifft


Llanfairpwllwyngyllgogerych...!

Fe fyddai'n bosib cyfuno eich ymweliad ag Ynys Môn gyda gwibdaith i bentref Llanfair Pwll i weld yr orsaf drên byd enwog sydd a'r enw hiraf yn y byd.


Porthaethwy - Ymweld â set Rownd a Rownd

Caiff y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd ei ffilmio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae'n bosib ymweld â set y rhaglen ar lannau'r Fenai i weld sut ac ym mhle y caiff y rhaglen ei chreu. Pwy a wyr, efallai y gwelwch ambell i seren deledu yn ystod eich ymweliad!


Castell Caernarfon

Castell Caernarfon yw un o'r cestyll mwyaf yng "nghylch haearn" Brenin Edward I sydd yn amgylchynu Eryri. Yn ystod eich ymweliad cewch eich tywys o amgylch y castell a chyfle i wylio ffilm am hanes y castell a choncwest Edward I yng Ngwynedd. Neu beth am daith o amgylch holl gestyll y gogledd gan gychwyn yng nghaer enwog Harlech gan ymweld â phob un o gestyll y "cylch haearn"? : Caernarfon, Biwmares a Chonwy.


Tŷ Lloyd George

Magwyd David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r unig Gymro sydd erioed wedi byw yn Number 10, yn Llanystumdwy, ger Cricieth. Gellir ymweld â thy ei blentyndod a chael eich tywys yn àl dros ganrif, gwisgo dillad y cyfnod a dysgu am fywyd ar droad y ganrif ddiwethaf.


Ynys Enlli

Saif Ynys Enlli tua thri chilomedr ar draws Swnt Enlli o Benrhyn Llyn yng Ngogledd Cymru. Mae Enlli yn nodedig fel cyrchfan pererinion ers dyddiau cynnar Cristnogaeth, ond mae arwyddion aneddiadau ar yr ynys sy'n dyddio o gyfnodau cynt. Daeth yn fan pwysig i'r Eglwys Gristnogol Geltaidd gan ddenu mynaich defodol, a chredir mai Sant Cadfan a ddechreuodd adeiladu'r mynachdy yn y chweched ganrif. Erbyn heddiw, mae'r ynys yn berchen i Ymddiriedolaeth Enlli ac yn llecyn perffaith i wylio bywyd gwyllt gan gynnwys adar a hyd yn oed morloi!


Nant Gwrtheyrn

Canolfan yn arbenigo mewn cyrsiau preswyl Cymraeg a chyrsiau treftadaeth Cymru yw Nant Gwrtheyrn. Mae'n bosib rhentu bythynnod yn y ganolfan ac mae croeso bob amser i ymwelwyr ddod i fwynhau'r dyffryn cyfan gan gynnwys y Ganolfan Dreftadaeth, siop, bwyty a'r traeth hudolus.


Beddgelert

Mae pentref prydferth Beddgelert yng nghanol mynyddoedd Eryri ac wedi ei llwyr amgylchynu gyda mynyddoedd. Mae'r pentref yn cymryd ei enw o chwedl Gelert, sef ci Llywelyn Fawr. Yn ôl y chwedl, un dydd aeth Llywelyn i hela gan adael ei fab yng ngofal ei gi ffyddlon, Gelert. Pan ddychwelodd cafodd ei groesawu gan Gelert a oedd â gwaed drosto. Gwelodd crud ei fab wedi ei droi wyneb i waered a'r blancedi wedi eu gorchuddio mewn gwaed a dim golwg o'i fab. Gan feddwl y gwaethaf, lladdodd Llywelyn y ci. Wrth i Gelert farw, clywodd swn ei fab yn crio. Pan aeth draw at y crud, gwelodd bod ei fab yn ddiogel oddi tano a blaidd mawr wrth ei ochr odd wedi cael ei ladd gan Gelert i achub y baban. Yn llawn galar am ei gi ffyddlon, claddodd Llewelyn Gelert mewn cae wrth ymyl ei dy, a gosod carreg ar y bedd. Gellir ymweld â'r bedd yma hyd heddiw ychydig y tu allan i'r pentref. Mae Beddgelert hefyd yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded yn yr ardal


Bedd Siwan

Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog yn Llan-faes er anrhydedd i'w wraig Siwan, merch y brenin John o Loegr, ar ôl iddi farw yn 1237. Yn ddiweddarach symudwyd beddrod Siwan i eglwys Biwmares ble mae o heddiw.


Rheilffordd Ffestiniog

Mae taith ar y rheilffordd hon yn gyfle gwych i ddangos effaith y diwydiant llechi yn yr ardal. Mae'r daith yn cychwyn o'r orsaf ym Mhorthmadog, tref a ddatblygodd ar ddechrau'r 19eg Ganrif wedi i Alexander William Madocks adeiladu morglawdd y Cob. Cyn i'r morglawdd gael ei godi, roedd croesi'r corsydd a'r dolydd rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth, ardal a elwir Y Traeth Mawr, yn waith anodd a pheryglus. Adeiladwyd y Cob er mwyn hwyluso'r daith ar draws Y Traeth Mawr a galluogi i Borthmadog ddatblygu'n dref a phorthladd pwysig yn yr ardal. Hwylusodd hyn hefyd gludiant glo i lawr o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog ac i weddill y byd.


Cae'r Gors

Gannwyd a magwyd Kate Roberts ym mhentref Rhosgadfan, ar gyrion ardal Dyffryn Nantlle a mynyddoedd Eryri a thafliad carreg o dref Caernarfon, a hynny ar droad yr ugeinfed ganrif, pan oedd y chwareli llechi yn eu hanterth. Er iddi symud i ffwrdd o'r ardal, ac ymgartrefu yn y pen draw yn Ninbych, fe arhosodd ardal ei phlentyndod yn agos iawn i'w chalon a bu'n ysbrydoliaeth gyson iddi drwy gydol ei gyrfa lenyddol. Yn ddiweddar, derbyniodd Cae'r Gors nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i ddatblygu ty genedigol Kate Roberts yn Rhosgadfan a�i wneud yn Ganolfan Treftadaeth. Mi fydd y Ganolfan yn agor ym mis Mai 2007.


Trên o Gaernarfon i Ryd Ddu

Mae'r siwrnai trên anhygoel hon yn rhedeg o Gastell Caernarfon yr holl ffordd i fyny'r dyffryn i droed yr Wyddfa yn Rhyd Ddu. Cewch eich cludo mewn trên traddodiadol ar hyd Rheilffordd Ucheldir Cymru sydd yn ymlwybro trwy fro T H Parry-Williams ble gwelwch y tirlun moel, mynyddig a fu'n ysbrydoliaeth iddo fel bardd.


Yr Ysgwrn

Dyma gartref genedigol Ellis Humphrey Evans, sef y prifardd Hedd Wyn. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt mewn brwydyr yn ardal Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel Eisteddfod y Gadair Ddu. Mae'r gadair i'w gweld hyd heddiw yn y ffermdy.


Cosmeston

Saif Llyn a Pharc Gwledig Cosmeston ar hen chwarel, ac mae amrywiaeth o fywyd gwyllt yn byw ymhob rhan o'r parc. Mae rhai mannau wedi eu henwi yn ardaloedd cadwraeth arbennig er mwyn diogelu'r anifeiliaid a'r planhigion prin sydd yno. Cafodd y parc ei gynllunio fel bod pobl yn gallu darganfod pethau newydd a mwynhau cefn gwlad. Mae pentref canoloesol Cosmeston hefyd yn rhan o'r parc ac mae'n ail-gread byw o'r pentref a fyddai wedi bod yno yn y 14eg Ganrif. Mae yno adeiladau o'r Canol Oesoedd, gerddi, bridiau prin ac amgueddfa fach. Mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal drwy'r flwyddyn. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.