Ynys Enlli

Saif Ynys Enlli tua thri chilomedr ar draws Swnt Enlli o Benrhyn Llyn yng Ngogledd Cymru. Mae Enlli yn nodedig fel cyrchfan pererinion ers dyddiau cynnar Cristnogaeth, ond mae arwyddion aneddiadau ar yr ynys sy’n dyddio o gyfnodau cynt. Daeth yn fan pwysig i’r Eglwys Gristnogol Geltaidd gan ddenu mynaich defodol, a chredir mai Sant Cadfan a ddechreuodd adeiladu’r mynachdy yn y chweched ganrif. Erbyn heddiw, mae’r ynys yn berchen i Ymddiriedolaeth Enlli ac yn llecyn perffaith i wylio bywyd gwyllt gan gynnwys adar a hyd yn oed morloi!