Bedd Siwan

Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog yn Llan-faes er anrhydedd i’w wraig Siwan, merch y brenin John o Loegr, ar ôl iddi farw yn 1237. Yn ddiweddarach symudwyd beddrod Siwan i eglwys Biwmares ble mae o heddiw.