Trên o Gaernarfon i Ryd Ddu

Mae’r siwrnai trên anhygoel hon yn rhedeg o Gastell Caernarfon yr holl ffordd i fyny’r dyffryn i droed yr Wyddfa yn Rhyd Ddu. Cewch eich cludo mewn trên traddodiadol ar hyd Rheilffordd Ucheldir Cymru sydd yn ymlwybro trwy fro T H Parry-Williams ble gwelwch y tirlun moel, mynyddig a fu’n ysbrydoliaeth iddo fel bardd.