Castell Caernarfon
18th February 2019
|By aclouise
Castell Caernarfon yw un o’r cestyll mwyaf yng “nghylch haearn” Brenin Edward I sydd yn amgylchynu Eryri. Yn ystod eich ymweliad cewch eich tywys o amgylch y castell a chyfle i wylio ffilm am hanes y castell a choncwest Edward I yng Ngwynedd. Neu beth am daith o amgylch holl gestyll y gogledd gan gychwyn yng nghaer enwog Harlech gan ymweld â phob un o gestyll y “cylch haearn”? : Caernarfon, Biwmares a Chonwy.