Porthaethwy – Ymweld â set Rownd a Rownd

Caiff y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd ei ffilmio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae’n bosib ymweld â set y rhaglen ar lannau’r Fenai i weld sut ac ym mhle y caiff y rhaglen ei chreu. Pwy a wyr, efallai y gwelwch ambell i seren deledu yn ystod eich ymweliad!