Beddgelert

Mae pentref prydferth Beddgelert yng nghanol mynyddoedd Eryri ac wedi ei llwyr amgylchynu gyda mynyddoedd. Mae’r pentref yn cymryd ei enw o chwedl Gelert, sef ci Llywelyn Fawr. Yn ôl y chwedl, un dydd aeth Llywelyn i hela gan adael ei fab yng ngofal ei gi ffyddlon, Gelert. Pan ddychwelodd cafodd ei groesawu gan Gelert a oedd â gwaed drosto. Gwelodd crud ei fab wedi ei droi wyneb i waered a’r blancedi wedi eu gorchuddio mewn gwaed a dim golwg o’i fab. Gan feddwl y gwaethaf, lladdodd Llywelyn y ci. Wrth i Gelert farw, clywodd swn ei fab yn crio. Pan aeth draw at y crud, gwelodd bod ei fab yn ddiogel oddi tano a blaidd mawr wrth ei ochr odd wedi cael ei ladd gan Gelert i achub y baban. Yn llawn galar am ei gi ffyddlon, claddodd Llewelyn Gelert mewn cae wrth ymyl ei dy, a gosod carreg ar y bedd. Gellir ymweld â’r bedd yma hyd heddiw ychydig y tu allan i’r pentref. Mae Beddgelert hefyd yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded yn yr ardal