Rheilffordd Ffestiniog
18th February 2019
|By aclouise
Mae taith ar y rheilffordd hon yn gyfle gwych i ddangos effaith y diwydiant llechi yn yr ardal. Mae’r daith yn cychwyn o’r orsaf ym Mhorthmadog, tref a ddatblygodd ar ddechrau’r 19eg Ganrif wedi i Alexander William Madocks adeiladu morglawdd y Cob. Cyn i’r morglawdd gael ei godi, roedd croesi’r corsydd a’r dolydd rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth, ardal a elwir Y Traeth Mawr, yn waith anodd a pheryglus. Adeiladwyd y Cob er mwyn hwyluso’r daith ar draws Y Traeth Mawr a galluogi i Borthmadog ddatblygu’n dref a phorthladd pwysig yn yr ardal. Hwylusodd hyn hefyd gludiant glo i lawr o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog ac i weddill y byd.