Cosmeston

Saif Llyn a Pharc Gwledig Cosmeston ar hen chwarel, ac mae amrywiaeth o fywyd gwyllt yn byw ymhob rhan o’r parc. Mae rhai mannau wedi eu henwi yn ardaloedd cadwraeth arbennig er mwyn diogelu’r anifeiliaid a’r planhigion prin sydd yno. Cafodd y parc ei gynllunio fel bod pobl yn gallu darganfod pethau newydd a mwynhau cefn gwlad. Mae pentref canoloesol Cosmeston hefyd yn rhan o’r parc ac mae’n ail-gread byw o’r pentref a fyddai wedi bod yno yn y 14eg Ganrif. Mae yno adeiladau o’r Canol Oesoedd, gerddi, bridiau prin ac amgueddfa fach. Mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.