Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Saif yr Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol Canolfan Ddinesig hyfryd Caerdydd. Mae yno lond gwlad o wahanol arddangosfeydd ar gelf, hanes, hanes Cymru, pensaernïaeth a daeareg yn ogystal â rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd dros dro. Mae’r oriel ryngweithiol yn cynnig cyfle i chi edrych ar yr hyn sydd ar gael, gofyn cwestiynau a dod o hyd i’r atebion gydag ychydig o help gan aelodau staff yr amgueddfa. Y Byd Naturiol: Dilynwch daith ryfeddol Cymru o ddechrau amser hyd heddiw. Dechreua’r hanes gyda’r glec fawr ac mae’n mynd â chi ar daith 4,600 miliwn o flynyddoedd. Darganfyddwch sut y newidiodd bywyd yng Nghymru, pam fod yma unwaith hinsawdd is-drofannol a pha ddeinosoriaid oedd yn byw yma. Archaeoleg: Darganfyddwch gyfrinachau’n cyndadau, sy’n cynnwys pethau mor amrywiol â hanes y dynion cynharaf oedd yma chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl, hanes Cymru yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid a gwrthryfel Owain Glyndwr. Mae eitemau bob dydd a gemwaith hynod gain yn help i chi ddeall hanes Cymru ac i weld cysylltiadau â’r gorffennol. Yr amgylchfyd: Cyfle i weld crwban lledrgefn mwya’r byd a nyth o 55,000 o forgrug deildorrol byw. Mae’r arddangosfa yn gyfle i ystyried ein perthynas ni gyda byd natur a’r effaith y mae pobl yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae casgliad Celf yr Amgueddfa Genedlaethol yn un o’r goreuon yn Ewrop. Mae’n cynnwys paentiadau, lluniau, cerflunwaith, eitemau arian a cherameg hynod o drawiadol sy’n rhychwantu 500 mlynedd. Mae’r eitemau’n dod o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys gweithiau gan Monet, Renoir a Cezanne. Yn wir, mae yma gasgliad heb ei ail o weithiau’r Argraffiadwyr.

Nodyn pwysig: Mae nifer o orielau ar gau oherwydd gwaith adnewyddu i ddathlu canmlwyddiant yr amgueddfeydd yn 2007. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth