Techniquest
16th February 2019
|By aclouise
Bydd yr amgueddfa wyddoniaeth ryngweithiol hon yn ennyn chwilfrydedd pawb, gan gynnwys pobl heb ronyn o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Mae’r amrywiaeth o ymweliadau sydd ar gael wedi eu seilio ar wahanol themâu ac maent yn addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 i 4. Mae gweithgareddau hefyd ar gyfer plant iau a disgyblion dros 16. Mae’r arddangosfeydd perthnasol wedi eu dangos yn glir fel bod grwpiau’n gallu dilyn llwybr o gwmpas yr amgueddfa. Mae pob grŵp yn cael cyfle i weld cyflwyniad bywiog yn y Theatr Wyddoniaeth neu’r Planetariwm, wedi ei seilio ar wahanol agweddau o ba bynnag thema ry’ch chi’n ei dewis. Mae hefyd yn bosib mynd ar daith gyffredinol i weld pob dim sydd ar gael. Hyd yr ymweliad : ½ diwrnod