Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt

Enw ardal Bae Caerdydd yn wreiddiol oedd Tiger Bay, ac ar un adeg roedd yn gartref i gymuned amlhiliol fwyaf ac enwocaf Ewrop. Mae’r ganolfan wedi bod yn archifo ffotograffau, cyfweliadau fideo a hanesion mewnfudwyr sydd wedi helpu i lunio’r Gymru gyfoes trwy eu cyfraniad i’r diwydiant llongau, y chwyldro diwydiannol a’r ddau ryfel byd. Y nod yw cofnodi hanes y bobl leol ac addysgu’r genhedlaeth nesaf. Gallai ymweliad â’r amgueddfa gynnwys taith ar gwch o amgylch y Bae, taith gerdded o amgylch y Bae, cyfle i ddefnyddio archifau rhyngweithiol yr amgueddfa a sesiwn hanes llafar anffurfiol gyda phobl sydd wedi byw yn Nhre Bute ar hyd eu hoes. Mae’r meysydd o ddiddordeb yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, celf, gwyddoniaeth, dinasyddiaeth, cymdeithaseg a datblygu ac adfywio trefol. Mae themâu ar gyfer teithiau cerdded yn cynnwys glan y dŵr, y ganolfan fasnachol Fictoraidd a’r Morglawdd. Mae’r ganolfan yn cynnig sioeau sleidiau hefyd. Mae themâu’n cynnwys ‘From Pithead to Pierhead – the story of the Welsh Coal trade’, ‘Blitz over the Bay – the story of Cardiff docklands at war’ a ‘The Pierhead Building – the story of Cardiff Bay’s icon building.’ Ar hyn o bryd mae’r ganolfan yn arddangos ‘It’s already in the wood’ – cerflunwaith Affro-Gymreig Raymond Charles Taylor. Cysylltwch â ni am restr o ddigwyddiadau. Mae amseroedd agor yn amrywio, gan ddibynnu ar natur yr ymweliad.