Castell Caerdydd

Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau canol y ddinas, ac wrth fynd ar daith o’i amgylch byddwch yn dod i ddeall sut mae wedi dylanwadu ar hanes Caerdydd.

Os yw eich grŵp yn astudio’r cyfnod Rhufeinig, Normanaidd neu Fictoraidd, mae adran addysg Castell Caerdydd yn darparu ystafelloedd dosbarth ac arteffactau i helpu eich grŵp i astudio gwisgoedd, arfau ac offer tŷ’r cyfnodau hyn yn fanwl. Gall plant iau wisgo dillad gweision y tŷ neu wisgo’r crys mael neu’r helmedau Rhufeinig.

Mae’r castell yn enghraifft ragorol o ganrifoedd o gynllunio pensaernïol, o’r waliau Rhufeinig, y Tŵr Normanaidd, y ty Sioraidd a Thŵr y Cloc Fictoraidd. Yn ystod y daith fe gewch gyfle i weld enghraifft wych o hoffter pobl o oes Fictoria o ail-greu nodweddion y Canol Oesoedd. Mae tiroedd y castell yn lle gwych i eistedd ac arlunio Tŵr y Cloc, y Tŵr Normanaidd, neu hyd yn oed y peunod!

Gellir defnyddio canolfan addysg y castell i gynnal gwers arlunio bywyd llonydd, gan fanteisio ar yr arfwisgoedd, y gwisgoedd a’r arfau i ysbrydoli’ch grŵp