Taith ar gwch

Gallwch ymweld â’r ardal o gwmpas Bae Caerdydd ar gwch. Dyma ffordd wych o ddysgu am bensaernïaeth a datblygiad yr ardal, o’i dyddiau fel porthladd rhyngwladol prysur hyd heddiw. Gallwch edmygu’r datblygiadau pensaernïol a ddaeth yn sgil datblygu’r Bae, yn ogystal ag ymweld â’r morglawdd a dysgu am effeithiau’r datblygiad ar yr amgylchedd.