Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Saif Senedd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd, mewn safle gwych ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, dafliad carreg o Ganolfan y Mileniwm a gweddill atyniadau’r Bae. Cafodd yr adeilad ei gynllunio gyda’r bwriad o adlewyrchu meddylfryd agored a thryloyw. Mae taith dywys o gwmpas yr adeilad yn cynnwys ymweliad â’r Siambr. Gall staff y Cynulliad hefyd drefnu gweithdai a gweithgareddau megis etholiadau ffug yn unol â’r hyn yr hoffech chi ganolbwyntio arno.