Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Dyma un o amgueddfeydd awyr agored gorau Ewrop a dyma’r atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’r amgueddfa’n dangos sut y bu pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn hamddena dros y 500 mlynedd diwethaf. Mae dros 40 o adeiladau gwreiddiol ar y safle can erw, ac maent wedi dod yma o bob cwr o Gymru. Mae’r adeiladau’n cynnwys ysgol, capel a Sefydliad y Gweithwyr. Mae yma hefyd nifer o weithdai ble gellir gweld crefftwyr traddodiadol wrth eu gwaith ac yn gwerthu eu cynnyrch i’r cyhoedd. Tu mewn i rai o’r adeiladau mae arddangosfeydd yn dangos dillad, bywyd bob dydd ac offer ffermio. Mae bridiau cynhenid o dda byw i’w gweld yn y caeau ac ar fuarth y fferm. Dyma gyfle gwych i ddysgu am dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru. Mae’r crefftwyr ac aelodau staff yr Amgueddfa’n siarad Cymraeg.