BBC Cymru

Bydd eich taith o amgylch Canolfan BBC Cymru yn para tua 1.5 awr. Bydd tywysydd gwybodus yn mynd â chi i’r stiwdios teledu a radio ac ar hyd strydoedd enwog Pobol y Cwm, gan ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. Hwyrach y byddwch yn ddigon ffodus i weld ambell seren deledu!