Canolfan Mileniwm Cymru
Dyma adeilad modern mwyaf trawiadol Cymru. Mae’r ganolfan yn cynnig rhaglen addysgol o’r radd uchaf, ac mae wedi ei hanelu at ofynion y cwricwlwm ym mhob Cyfnod Allweddol. Gellir trefnu taith dywys o gwmpas yr adeilad yn ogystal â gweithdy a sioe am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan. Bydd cyfle hefyd i ddisgyblion gael amser i archwilio anturCelf, oriel ryngweithiol y ganolfan. Cliciwch yma i weld rhestr gyflawn o’r gweithdai a’r sioeau cyfredol. Gellir trefnu gweithdy i ddysgu am y pensaer a ddyluniodd y ganolfan a’r bardd a gyfansoddodd yr arysgrif, gweithdy am gerddoriaeth a gwisgoedd cyfnod y Tuduriaid, neu weithdy dylunio eich offeryn eich hun gan ddarganfod synau newydd. Mae pris a hyd yr ymweliad yn amrywio yn ôl yr hyn a ddewiswch. Mae modd hefyd i chi logi ystafell o fewn y ganolfan i fwyta’ch cinio.
Rhaglenni addysgol ar gyfer lefelau BTEC, GNVQ a Safon Uwch:
Celfyddydau Perfformio:
Bydd y grŵp yn cael taith dywys o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru, ac yna sgwrs gydag aelodau staff o’r adrannau Rhaglennu, Marchnata ac Ariannol.
Astudiaethau Busnes/Twristiaeth a Hamdden:
Bydd y grŵp yn cael taith dywys o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru cyn cael sgwrs gydag aelodau o staff o’r adrannau Recriwtio, Marchnata a Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Astudiaethau Theatr:
Cysylltwch â ni i gael manylion am yr hyn sydd ar gael i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr gan mai dim ond ar adegau penodol yn y flwyddyn y maen nhw ar gael.
Daearyddiaeth:
Diwrnod Daearyddiaeth : Tirwedd y Bae. Cyfle i ddysgu am dirwedd Bae Caerdydd, sy’n prysur newid yn sgil datblygiadau newydd yn yr ardal. Cyfnod Allweddol 1 a 2 – cyfle i weld yr effaith y mae pobl yn ei gael ar yr amgylchedd a pha gynlluniau sydd mewn lle i warchod yr amglychedd yn y dyfodol. Cyfnod Allweddol 3 a 4 – Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y newid cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal, yn ogystal â phrosesau a phroblemau amgylcheddol dynol.