Taith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm

Hon fydd uchafbwynt y daith i’r rheiny yn eich plith sy’n hoff o chwaraeon. Wedi cyflwyniad byr ynglŷn â’r stadiwm ei hun, cewch gyfle i weld yr ystafelloedd newid, y cae, ardal y wasg, blychau croesawu a’r bocs brenhinol. Mae’r daith yn para awr ac mae’r ymweliad ar gael yn Gymraeg.