Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae pwll Big Pit ar gyrion Blaenafon, tref a oedd yn hollbwysig yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Gyda’r Chwyldro, trawsnewidiwyd tirlun, diwylliant a chymdeithas yng Nghymru, gweddill Prydain a’r byd. Mae’r ymweliad yn dechrau gyda thaith 300 troedfedd (90m) i lawr y siafft yn y gawell yng nghwmni glowr profiadol. Mae’r ymweliad hefyd yn cynnwys adeiladau gwreiddiol ‘Big Pit’, gan gynnwys Baddonau Pen y Pwll, yr Efail a’r Stablau. Mae cyflwyniad clyweledol diddorol yn disgrifio bywyd fel glowr ac yn dangos y dulliau gwahanol o gloddio am lo dros yr oesoedd.

Hyd yr ymweliad: 3-4 awr

Nodyn pwysig: Mae’n rhaid i ddisgyblion fod dros bump oed ac yn fetr o daldra er mwyn cael mynd o dan y ddaear.