Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Caerllion

Caerllion oedd un o ddim ond tair caer barhaol ym Mhrydain yn oes y Rhufeiniaid, a hi oedd cadarnle bellaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Lleolir yr amgueddfa yn yr hyn sy’n weddill o’r gaer, sy’n cynnwys yr amffitheatr fwyaf cyflawn ym Mhrydain, a’r unig weddillion o farics y Lleng Rufeinig yn Ewrop. Yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru byddwch yn dysgu pam fod y Rhufeiniaid yn rym mor effeithiol a sut y bu iddyn nhw ddylanwadu cymaint ar y byd cyfoes. Byddwch yn gweld casgliad mawr o eitemau sy’n dangos arferion byw, ymladd, addoli a marw’r Rhufeiniaid.

 

Cyfunwch y daith hon gydag ymweliad â Sba Caerfaddon (tua ¾ awr o safle Caerllion) er mwyn cael profiad cyfoes o drochi a hamdden yn oes y Rhufeiniaid