Cofeb i filwyr Canada yn Vimy Ridge
Fel rhan o Frwydr Arras, ymosododd pedair uned byddin Canada ar y cribyn ar 9 Ebrill 1917. Llwyddodd milwyr Canada i gipio Vimy Ridge ond lladdwyd ac anafwyd dros 10,000 ohonynt. Mae llywodraeth Ffrainc wedi dynodi rhan gyfan o'r cribyn yn Barc Coffa, gan gadw'r ffosydd, tyllau sieliau a chraterau'r ffrwydron fel ag yr oeddynt. O dan y ddaear mae rhwydwaith eang o dwneli a ddefnyddiodd milwyr Canada i symud ymlaen i ymosod heb gael eu gweld gan yr Almaenwyr. Mewn canolfan ddehongli gyfagos, gallwch gael gwybodaeth a thaflenni ac mae tywysyddion wrth law i ateb eich cwestiynau. Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd gallwch hefyd ymweld â'r twneli mewn grwpiau bach dan arweiniad tywysydd o Ganada. Nodwch fod y gofeb ar gau ar hyn o bryd yn sgil gwaith adnewyddu a bydd yn ailagor ar 9 Ebrill 2007. Bydd teithiau tywys o'r gofeb ar gael o fis Mai 2007 ymlaen. Fodd bynnag, mae'r ganolfan ddehongli a'r twneli ar agor fel arfer.
Gallwch gyfuno'ch ymweliad â nifer o weithgareddau eraill yn yr ardal nad ydynt yn gysylltiedig â Meysydd y Gad. Gallwch siopa yn nhrefi hanesyddol prydferth Bruges neu Lille. Am flas go iawn ar Ffrainc, beth am ymweld â boulangerie neu fferm yn ardal Boulogne? Cysylltwch â ni i drafod eich taith yn llawn.
Historial de la Grande Guerrre
Mae'r amgueddfa hon yn olrhain hanes y rhyfel, sut y cychwynnodd yn y lle cyntaf a'i ganlyniadau trwy edrych ar hanes Ffrainc, yr Almaen a Phrydain. Mae'n rhoi darlun diwylliannol o'r rhyfel byd-eang cyntaf trwy lygaid milwyr a phobl gyffredin. Nid yw'r amgueddfa'n cynnig teithiau tywys ond mae'n darparu pecyn addysgu cynhwysfawr y gellir ei ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad. Gellir addasu'r pecynnau i weddu i ofynion eich grŵp.
Amgueddfa Ffosydd y Somme, Albert
Lleolir Le Musée Somme 1916 mewn llochesau tanddaearol gwreiddiol a roddodd loches rhag y gelyn ar sawl achlysur. Mae'r amgueddfa'n portreadu bywydau'r milwyr yn y ffosydd yn ystod brwydr y Somme ym 1916. Dioddefodd tref Albert ddifrod helaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1918, roedd y rhan fwyaf o'r dref wedi diflannu'n llwyr cyn i Brydain adennill rheolaeth. Yn y dref hon y lansiwyd yr ymosodiad trychinebus ar 1 Gorffennaf 1916.
Taith dywys o'r Somme
Bydd y daith hon yn olrhain hanes y Rhyfel Mawr trwy safleoedd ac amgueddfeydd yr ardal (Musée Somme 1916 / Historial de la Grande Guerre) gan gofio un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf, Brwydr y Somme ym 1916. Gellir addasu'r daith dywys o'r Somme i weddu i ofynion eich grŵp. Gallwch weld Crater Lochnagar - crater 90 metr mewn diamedr a grëwyd gan ffrwydryn tir - yn La Boisselle, cofeb 45 metr o uchder Thiepval er cof am filwyr coll y Somme, parc Newfoundland Beaumont-Hamel, Tŵr Ulster a'r union ffosydd lle bu'r milwyr yn brwydro yn Vimy Ridge. Hwyrach y bydd gan ymwelwyr o Gymru ddiddordeb mewn ymweld â cherflun y Ddraig Goch yng Nghoedwig Mametz sy'n cofio milwyr y 38th (Welsh) Division (sy'n cael ei adnabod fel Byddin Cymru Lloyd George) a aberthodd eu bywydau yno. Gellir cynnwys yr ymweliad yn eich taith dywys.
Amgueddfa Goffa Passchendaele
Un o frwydrau pwysicaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y drydedd frwydr yn Ypres, sef Passchendaele 1917. O'r cannoedd ar filoedd a gollodd eu bywydau (milwyr Prydain, Awstralia, Canada, Seland Newydd a De Affrica yn bennaf), mae'r rhan fwyaf yn dal i orwedd ar Feysydd Fflandrys. Mae Archif Passchendaele yn Amgueddfa Goffa Zonnebeke yn gofeb fyw, sy'n ceisio rhoi wynebau a chefndir i enwau'r rhai a syrthiodd ac na chafwyd fyth hyd i'w cyrff. Ceir yma gofnodion personol yn cynnwys ffotograffau, dogfennau teuluol a gwybodaeth gan ffynonellau milwrol.
Talbot House
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd tref Poperinge wedi'i lleoli rai cilometrau y tu ôl i erchyllterau'r brwydro ar Ypres Salient, a daeth yn gartref i fyddin Prydain. Yng nghanol y dref fywiog, agorodd y Caplan Philip Clayton "dŷ i'r milwyr". Cafodd tŷ mawr teulu lleol ei droi'n glwb lle'r oedd croeso i bob milwr beth bynnag fo'i reng. Daeth yn gartref oddi cartref i gannoedd ar filoedd o filwyr - yn hafan lle gallent orffwys a chael ychydig o heddwch. Heddiw, mae'r tŷ a'r gerddi'n amgueddfa. Mae'r rhan fwyaf o'r arddangosfeydd yn y gerddi a'r adeiladau allanol ac maen nhw'n canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau'r rhyfel. Mae hefyd ystafell addysg lle gallwch gynnal eich gweithgareddau'ch hun yn ystod eich ymweliad.
Hill 62/Sanctuary Wood
Wedi'r rhyfel, cafodd y goedwig hon ei throi'n amgueddfa breifat gan berchnogion y tir, a sylweddolodd yn gynnar iawn y byddai'r safle o ddiddordeb mawr i bererinion a thwristiaid. Heddiw, mae llawer o bobl o'r farn mai Sanctuary Wood yw'r lle gorau i weld ffosydd Ffrynt y Gorllewin fel ag yr oeddynt yn wreiddiol. Cewch weld yma wrthrychau o feysydd y gad yn ogystal â ffotograffau stereosgopig 3D o olygfeydd cignoeth a gafodd eu tynnu yn ystod y rhyfel.
Gerllaw'r amgueddfa mae mynwent Sanctuary Wood sy'n cynnwys dros 2,000 o feddau a chofeb i filwyr Canada yn Hill 62.
Siop siocled
Mae Gwlad Belg yn enwog am ei siocled felly byddai'n drueni mawr colli'r cyfle i ymweld â chocolaterie teuluol. Cewch daith o amgylch y siop, cyfle i flasu'r siocled a sgwrs am y broses o wneud siocled. Dim ond 20 munud sydd angen ei neilltuo ar gyfer yr ymweliad felly mae'n ddigon hawdd ei drefnu i gyd-fynd â'ch ymweliad ag Ypres.
Amgueddfa 'In Flanders Fields'
Mae Amgueddfa 'In Flanders Field' wedi'i lleoli yn y Neuadd Frethyn ac mae'n atgof di-lol ac awdurdodol o ddigwyddiadau cythryblus y Rhyfel Mawr. Cyflwynir y cyfnod yn rhyngweithiol o safbwynt y bobl a oedd yn byw adeg y rhyfel. Mae disgyblion yn cael enw person i'w ymchwilio wrth iddynt grwydro o amgylch yr arddangosfa, gan roi cyfle iddyn nhw weld y rhyfel trwy lygaid milwyr o bedwar ban byd, meddygon, nyrsys, newyddiadurwyr ac arlunwyr yn ogystal â dynion, menywod a phlant cyffredin a oedd yn byw yn Ypres ac a fu'n rhan o'r rhyfel yn groes i'w hewyllys.
Menin Gate
Bob nos am 8.00pm ers 1928, mae grŵp o fiwglwyr lleol yn seinio'r Utgorn Olaf neu'r 'Last Post' ym Menin Gate. Mae enwau bron i 55,000 o filwyr Prydain a'r Gymanwlad a drengodd ar feysydd y gad Fflandrys sydd heb feddi wedi'u harysgrifio ar furiau'r porth. Mae'r deyrnged ddyddiol hon yn anrhydeddu milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig a frwydrodd ac a fu farw yn Ypres Salient yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddem yn argymell mynychu'r seremoni gyda'ch grŵp - mae'n brofiad emosiynol sy'n peri i chi gnoi cil ar ddigwyddiadau'r gorffennol.
Taith Dywys Ypres Salient
Ym Meysydd y Gad Fflandrys y syrthiodd miloedd o'r bechgyn a fu'n brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae cofebion, mynwentydd, amgueddfeydd a thirluniau di-ri yn talu teyrnged iddynt. Er mwyn gwneud y gorau o'ch ymweliad â Meysydd y Gad Ypres Salient, rydyn ni'n argymell taith dywys ar fws. Gellir addasu'r teithiau i weddu i'ch gofynion. Mae'r daith gyffredinol yn cynnwys beddau'r beirdd Hedd Wyn a Francis Ledwidge. Bydd bedd Hedd Wyn o ddiddordeb arbennig i ysgolion o Gymru. Roedd Ellis Humphrey Evans yn fardd dawnus ac enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw ym 1917 dan y ffugenw Hedd Wyn. Ond gwag fu'r gadair - roedd Hedd Wyn wedi'i ladd chwe wythnos yn gynharach ac mae Cadair Ddu Penbedw yn dal yn symbol byw o erchyllterau'r Rhyfel. Byddwch hefyd yn ymweld â Mynwent Essex Farm, lle ysgrifennodd John McCrae'r gerdd enwog "In Flanders Field", a Ffos Swydd Efrog, sydd newydd ei hadfer. Gellir cynnwys ymweliad ag Amgueddfa Sanctuary Wood yn Hill 62 yn y daith neu ymweld â'r amgueddfa ar wahân. Gallwch hefyd alw ym Menin Gate am esboniad byr o seremoni'r Utgorn Olaf neu'r 'Last Post'.