Taith dywys o’r Somme

Bydd y daith hon yn olrhain hanes y Rhyfel Mawr trwy safleoedd ac amgueddfeydd yr ardal (Musée Somme 1916 / Historial de la Grande Guerre) gan gofio un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf, Brwydr y Somme ym 1916. Gellir addasu’r daith dywys o’r Somme i weddu i ofynion eich grŵp. Gallwch weld Crater Lochnagar – crater 90 metr mewn diamedr a grëwyd gan ffrwydryn tir – yn La Boisselle, cofeb 45 metr o uchder Thiepval er cof am filwyr coll y Somme, parc Newfoundland Beaumont-Hamel, Tŵr Ulster a’r union ffosydd lle bu’r milwyr yn brwydro yn Vimy Ridge. Hwyrach y bydd gan ymwelwyr o Gymru ddiddordeb mewn ymweld â cherflun y Ddraig Goch yng Nghoedwig Mametz sy’n cofio milwyr y 38th (Welsh) Division (sy’n cael ei adnabod fel Byddin Cymru Lloyd George) a aberthodd eu bywydau yno. Gellir cynnwys yr ymweliad yn eich taith dywys.