Talbot House
4th March 2019
|By aclouise
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd tref Poperinge wedi’i lleoli rai cilometrau y tu ôl i erchyllterau’r brwydro ar Ypres Salient, a daeth yn gartref i fyddin Prydain. Yng nghanol y dref fywiog, agorodd y Caplan Philip Clayton “dŷ i’r milwyr”. Cafodd tŷ mawr teulu lleol ei droi’n glwb lle’r oedd croeso i bob milwr beth bynnag fo’i reng. Daeth yn gartref oddi cartref i gannoedd ar filoedd o filwyr – yn hafan lle gallent orffwys a chael ychydig o heddwch. Heddiw, mae’r tŷ a’r gerddi’n amgueddfa. Mae’r rhan fwyaf o’r arddangosfeydd yn y gerddi a’r adeiladau allanol ac maen nhw’n canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau’r rhyfel. Mae hefyd ystafell addysg lle gallwch gynnal eich gweithgareddau’ch hun yn ystod eich ymweliad.