Amgueddfa Ffosydd y Somme, Albert

Lleolir Le Musée Somme 1916 mewn llochesau tanddaearol gwreiddiol a roddodd loches rhag y gelyn ar sawl achlysur. Mae’r amgueddfa’n portreadu bywydau’r milwyr yn y ffosydd yn ystod brwydr y Somme ym 1916. Dioddefodd tref Albert ddifrod helaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1918, roedd y rhan fwyaf o’r dref wedi diflannu’n llwyr cyn i Brydain adennill rheolaeth. Yn y dref hon y lansiwyd yr ymosodiad trychinebus ar 1 Gorffennaf 1916.