Hill 62/Sanctuary Wood

Wedi’r rhyfel, cafodd y goedwig hon ei throi’n amgueddfa breifat gan berchnogion y tir, a sylweddolodd yn gynnar iawn y byddai’r safle o ddiddordeb mawr i bererinion a thwristiaid. Heddiw, mae llawer o bobl o’r farn mai Sanctuary Wood yw’r lle gorau i weld ffosydd Ffrynt y Gorllewin fel ag yr oeddynt yn wreiddiol. Cewch weld yma wrthrychau o feysydd y gad yn ogystal â ffotograffau stereosgopig 3D o olygfeydd cignoeth a gafodd eu tynnu yn ystod y rhyfel.

Gerllaw’r amgueddfa mae mynwent Sanctuary Wood sy’n cynnwys dros 2,000 o feddau a chofeb i filwyr Canada yn Hill 62.