Amgueddfa ‘In Flanders Fields’
4th March 2019
|By aclouise
Mae Amgueddfa ‘In Flanders Field’ wedi’i lleoli yn y Neuadd Frethyn ac mae’n atgof di-lol ac awdurdodol o ddigwyddiadau cythryblus y Rhyfel Mawr. Cyflwynir y cyfnod yn rhyngweithiol o safbwynt y bobl a oedd yn byw adeg y rhyfel. Mae disgyblion yn cael enw person i’w ymchwilio wrth iddynt grwydro o amgylch yr arddangosfa, gan roi cyfle iddyn nhw weld y rhyfel trwy lygaid milwyr o bedwar ban byd, meddygon, nyrsys, newyddiadurwyr ac arlunwyr yn ogystal â dynion, menywod a phlant cyffredin a oedd yn byw yn Ypres ac a fu’n rhan o’r rhyfel yn groes i’w hewyllys.