Historial de la Grande Guerrre
4th March 2019
|By aclouise
Mae’r amgueddfa hon yn olrhain hanes y rhyfel, sut y cychwynnodd yn y lle cyntaf a’i ganlyniadau trwy edrych ar hanes Ffrainc, yr Almaen a Phrydain. Mae’n rhoi darlun diwylliannol o’r rhyfel byd-eang cyntaf trwy lygaid milwyr a phobl gyffredin. Nid yw’r amgueddfa’n cynnig teithiau tywys ond mae’n darparu pecyn addysgu cynhwysfawr y gellir ei ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad. Gellir addasu’r pecynnau i weddu i ofynion eich grŵp.