Menin Gate
4th March 2019
|By aclouise
Bob nos am 8.00pm ers 1928, mae grŵp o fiwglwyr lleol yn seinio’r Utgorn Olaf neu’r ‘Last Post’ ym Menin Gate. Mae enwau bron i 55,000 o filwyr Prydain a’r Gymanwlad a drengodd ar feysydd y gad Fflandrys sydd heb feddi wedi’u harysgrifio ar furiau’r porth. Mae’r deyrnged ddyddiol hon yn anrhydeddu milwyr yr Ymerodraeth Brydeinig a frwydrodd ac a fu farw yn Ypres Salient yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddem yn argymell mynychu’r seremoni gyda’ch grŵp – mae’n brofiad emosiynol sy’n peri i chi gnoi cil ar ddigwyddiadau’r gorffennol.