Amgueddfa Goffa Passchendaele

Un o frwydrau pwysicaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y drydedd frwydr yn Ypres, sef Passchendaele 1917. O’r cannoedd ar filoedd a gollodd eu bywydau (milwyr Prydain, Awstralia, Canada, Seland Newydd a De Affrica yn bennaf), mae’r rhan fwyaf yn dal i orwedd ar Feysydd Fflandrys. Mae Archif Passchendaele yn Amgueddfa Goffa Zonnebeke yn gofeb fyw, sy’n ceisio rhoi wynebau a chefndir i enwau’r rhai a syrthiodd ac na chafwyd fyth hyd i’w cyrff. Ceir yma gofnodion personol yn cynnwys ffotograffau, dogfennau teuluol a gwybodaeth gan ffynonellau milwrol.