Siop siocled

Mae Gwlad Belg yn enwog am ei siocled felly byddai’n drueni mawr colli’r cyfle i ymweld â chocolaterie teuluol. Cewch daith o amgylch y siop, cyfle i flasu’r siocled a sgwrs am y broses o wneud siocled. Dim ond 20 munud sydd angen ei neilltuo ar gyfer yr ymweliad felly mae’n ddigon hawdd ei drefnu i gyd-fynd â’ch ymweliad ag Ypres.