Cofeb i filwyr Canada yn Vimy Ridge
Fel rhan o Frwydr Arras, ymosododd pedair uned byddin Canada ar y cribyn ar 9 Ebrill 1917. Llwyddodd milwyr Canada i gipio Vimy Ridge ond lladdwyd ac anafwyd dros 10,000 ohonynt. Mae llywodraeth Ffrainc wedi dynodi rhan gyfan o’r cribyn yn Barc Coffa, gan gadw’r ffosydd, tyllau sieliau a chraterau’r ffrwydron fel ag yr oeddynt. O dan y ddaear mae rhwydwaith eang o dwneli a ddefnyddiodd milwyr Canada i symud ymlaen i ymosod heb gael eu gweld gan yr Almaenwyr. Mewn canolfan ddehongli gyfagos, gallwch gael gwybodaeth a thaflenni ac mae tywysyddion wrth law i ateb eich cwestiynau. Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd gallwch hefyd ymweld â’r twneli mewn grwpiau bach dan arweiniad tywysydd o Ganada. Nodwch fod y gofeb ar gau ar hyn o bryd yn sgil gwaith adnewyddu a bydd yn ailagor ar 9 Ebrill 2007. Bydd teithiau tywys o’r gofeb ar gael o fis Mai 2007 ymlaen. Fodd bynnag, mae’r ganolfan ddehongli a’r twneli ar agor fel arfer.
Gallwch gyfuno’ch ymweliad â nifer o weithgareddau eraill yn yr ardal nad ydynt yn gysylltiedig â Meysydd y Gad. Gallwch siopa yn nhrefi hanesyddol prydferth Bruges neu Lille. Am flas go iawn ar Ffrainc, beth am ymweld â boulangerie neu fferm yn ardal Boulogne? Cysylltwch â ni i drafod eich taith yn llawn.