Taith Dywys Ypres Salient

Ym Meysydd y Gad Fflandrys y syrthiodd miloedd o’r bechgyn a fu’n brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae cofebion, mynwentydd, amgueddfeydd a thirluniau di-ri yn talu teyrnged iddynt. Er mwyn gwneud y gorau o’ch ymweliad â Meysydd y Gad Ypres Salient, rydyn ni’n argymell taith dywys ar fws. Gellir addasu’r teithiau i weddu i’ch gofynion. Mae’r daith gyffredinol yn cynnwys beddau’r beirdd Hedd Wyn a Francis Ledwidge. Bydd bedd Hedd Wyn o ddiddordeb arbennig i ysgolion o Gymru. Roedd Ellis Humphrey Evans yn fardd dawnus ac enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw ym 1917 dan y ffugenw Hedd Wyn. Ond gwag fu’r gadair – roedd Hedd Wyn wedi’i ladd chwe wythnos yn gynharach ac mae Cadair Ddu Penbedw yn dal yn symbol byw o erchyllterau’r Rhyfel. Byddwch hefyd yn ymweld â Mynwent Essex Farm, lle ysgrifennodd John McCrae’r gerdd enwog “In Flanders Field”, a Ffos Swydd Efrog, sydd newydd ei hadfer. Gellir cynnwys ymweliad ag Amgueddfa Sanctuary Wood yn Hill 62 yn y daith neu ymweld â’r amgueddfa ar wahân. Gallwch hefyd alw ym Menin Gate am esboniad byr o seremoni’r Utgorn Olaf neu’r ‘Last Post’.