Lido di Jesolo
Gallwch hefyd dreulio amser ar lan y môr yn Lido di Jesolo gerllaw - delfrydol ar gyfer diwrnod ar y traeth gyda'r holl atyniadau arferol - tai bwyta a bariau, golff mini ac ati.
Verona
Mae'n werth ymweld â chanol dinas Verona sy'n brydferth iawn ac yn dyddio o'r Oesoedd Canol a'r Arena Rufeinig wych. Ond prif atyniad Verona yw 'balconi Juliet' - dywedir mai dyma le'r oedd Juliet o ddrama Shakespeare yn byw. Credir bod rhwbio'r cerflun efydd o Juliet y tu allan i'r balconi yn rhoi lwc dda.
Padua
Mae gan ddinas brifysgol hynafol Padua wledd o weithiau celf yn dyddio o'r Oesoedd Canol. Yr enwocaf yw ffresgo Giotto yng Nghapel Scrovegni.
Pont Rialto
Mae Pont Rialto wedi bod yn ardal fasnachu bwysig ar hyd y blynyddoedd a dyma le y dewch chi ar draws prif farchnadoedd llysiau a ffrwythau'r ddinas. Erbyn heddiw, mae'n fwy o atyniad i dwristiaid nag unrhyw beth arall diolch i'w lleoliad gwych. Gallwch fwynhau golygfeydd godidog o'r bont a chyfleoedd di-ri i dynnu lluniau a phrynu swfenîrs.
Palazzo Grassi
Adeiladwyd y Palazzo Grassi rhwng 1748 ac 1772 ar gyfer teulu cyfoethog Grassi a dyma oedd un o'r palasau olaf i gael ei adeiladu cyn cwymp Gweriniaeth Fenis ym 1797. Heddiw, ceir yma oriel gelf sy'n cynnal arddangosfeydd celf dros dro. Cysylltwch â ni os hoffech chi wybodaeth am arddangosfeydd sy'n cyd-daro â'ch ymweliad â Fenis.
Amgueddfa Les
Cyfle i weld darnau prin a gwerthfawr o les a dysgu am ddatblygiad y diwydiant les yn Fenis. Gallwch chi hefyd weld gweithwyr les wrth eu gwaith a gweld sut maen nhw wedi cadw'r hen draddodiad Fenisaidd a'i ddatblygu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Artistiaid o Gymru yn y Biennale
Mae Pafiliwn Cymru yn y Biennale yn llwyfan rhyngwladol heb ei ail i'r artistiaid sy'n cynrychioli Cymru. Yn dilyn llwyddiant ysgubol cyflwyniadau blaenorol o Gymru yn Biennale Celf Fenis, mae Richard Deacon, Merlin James a Heather ac Ivan Morison wedi'u dewis i gynrychioli Cymru yn y 52fed Biennale Fenis yn 2007. Mae'r artistiaid yn gobeithio creu arddangosfa ddeinamig sy'n cynrychioli'r gorau o gelfyddyd fodern Cymru. Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Cymru yn Biennale Celf Fenis
Biennale Celf Fenis
Biennale Fenis yw'r digwyddiad pwysicaf yn nyddiadur celfyddyd gyfoes llawer. Mae'r wyl gelfyddyd, cerddoriaeth a drama yn denu artistiaid o dros 70 gwlad ac mae'n brofiad aml-gyfrwng ac aml-ddiwylliant gwefreiddiol. Mae'r Biennale Celf yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd. Mae'n cael ei gynnal am yn ail â'r Biennale Pensaernïaeth ac fe gynhelir Biennales ar wahân ar gyfer cerddoriaeth, dawns a ffilm hefyd. Cysylltwch â ni am restr lawn o arddangosiadau a sioeau.
Palas Doge (Palazzo Ducale)
Roedd gan Balas Doge ran bwysig iawn yng Ngweriniaeth Fenis fel cartref y Doge - y dug - ac adrannau'r llywodraeth. Cafodd hyd yn oed ei ddefnyddio fel carchar y weriniaeth. Mae'r adeilad ei hun yn enghraifft drawiadol a phrin o bensaernïaeth Gothig Fenisaidd. Gellir gweld paentiadau enwog fel Paradiso gan Tintoretto, un o'r paentiadau olew mwyaf yn y byd, yn ystafelloedd crand y palas. Mae'r Ponte dei Sospiri (Pont yr Ocheneidiau) adnabyddus, lle gellid clywed ocheneidiau'r carcharorion yn ôl y chwedl, yn cysylltu'r Carchardai Newydd â'r Hen Garchardai, lle'r oedd carcharorion yn cael eu cadw pan oedd y Carchardai Newydd yn llawn.
Campanile di San Marco (Y Clochdy)
Y clochdy o'r 10fed ganrif y tu allan i Basilica di San Marco yw un o nodweddion pensaernïol enwocaf Fenis. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1902, fe ddymchwelodd yn ddirybudd a bu'n rhaid ei ailadeiladu dros gyfnod o ddeng mlynedd. Ewch yn y lifft i frig y twr i fwynhau golygfeydd bendigedig o'r lagwn.
Basilica di San Marco
Mae'r Basilica'n symbol o gyfoeth a mawredd Fenis ac mae wedi'i haddurno gan weithiau celf o wledydd pellennig dros y canrifoedd. Mae'n fwyaf enwog am y gweithiau mosaig euraidd ysblennydd uwchlaw'r fynedfa ac yn y cromenni. Yn anffodus, nid yw pob rhan o'r eglwys gadeiriol yn agored i'r cyhoedd oherwydd bod cynifer o ymwelwyr yn tyrru yma bob blwyddyn. Mae'r ymweliad â'r tu mewn yn cymryd tua deng munud ac nid oes hawl mynd â bagiau i mewn i'r adeilad. Rhaid eu gadael nhw yn y loceri bagiau cyfagos. Codir tâl mynediad bach wrth i chi fynd i mewn i'r basilica.
Piazza San Marco
Y sgwâr bywiog hwn sy'n llawn trysorau pensaernïol yw un o'r atyniadau mwyaf adnabyddus yn y byd. Yn arbennig, mae twr y cloc yn werth ei weld. Mae'r sgwâr bob amser yn llawn ymwelwyr yn mwynhau'r awyrgylch ac yn edmygu'r golygfeydd. Serch hynny, mae'r sgwâr yn anferth felly'n anaml iawn y mae'n teimlo'n orlawn. Gair i gall - bydd yn rhaid i chi dalu crocbris am goffi yn un o'r bariau deniadol sydd â golygfeydd ysblennydd o'r gamlas! Saif y sgwâr ar un o rannau isa'r ddinas ac felly mae'n un o'r ardaloedd cyntaf i ddioddef llifogydd os oes acqua alta, pan fo cymaint o ddwr yn y gamlas nes ei fod yn gorlifo ar y strydoedd.
Yr Amgueddfa wydr, Ynys Murano
Mae'r diwydiant gwaith gwydr wedi bod yn bwysig i economi Fenis erioed a rhoddwyd breintiau arbennig i weithwyr gwydr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, fel yr hawl i wisgo cleddyfau a breintryddid rhag cael eu herlyn. Nhw oedd yr unig bobl yn y byd a oedd yn gwybod sut i wneud drychau ac fe ddatblygon nhw dechnegau newydd unigryw megis creu gwydr amryliw. Mae gwydr Murano'n gyffredin yn Fenis a'r cyffiniau ac wrth grwydro ynys fechan Murano rydych chi'n siwr o ddod ar draws ffatri lle gallwch chi weld sut mae gwydr yn cael ei gynhyrchu heddiw. Os ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am ddatblygiad y diwydiant, mae'r amgueddfa hon yn gartref i'r casgliad mwyaf o wydr Murano yn y byd, sy'n cynnwys gweithiau gwydr o'r bymthegfed ganrif a gweithiau cyfoes.
Ca' Pesaro - Oriel Ryngwladol Celf Fodern
Mae'r amgueddfa hon yn gartref i gasgliadau pwysig o baentiadau a cherfluniau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, gan gynnwys gweithiau gan Klimt, Chagall a gweithiau rhyfeddol gan arlunwyr fel Kandinsky, Klee, Matisse a Moore. Gallwch hefyd weld detholiad gwych o waith arlunwyr o'r Eidal ac arddangosfa celf graffig.
Amgueddfa Peggy Guggenheim
Casgliad Peggy Guggenheim yw'r amgueddfa bwysicaf yn yr Eidal ar gyfer celfyddyd o Ewrop ac America sy'n dyddio o hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.