Pont Rialto
4th March 2019
|By aclouise
Mae Pont Rialto wedi bod yn ardal fasnachu bwysig ar hyd y blynyddoedd a dyma le y dewch chi ar draws prif farchnadoedd llysiau a ffrwythau’r ddinas. Erbyn heddiw, mae’n fwy o atyniad i dwristiaid nag unrhyw beth arall diolch i’w lleoliad gwych. Gallwch fwynhau golygfeydd godidog o’r bont a chyfleoedd di-ri i dynnu lluniau a phrynu swfenîrs.