Basilica di San Marco

Mae’r Basilica’n symbol o gyfoeth a mawredd Fenis ac mae wedi’i haddurno gan weithiau celf o wledydd pellennig dros y canrifoedd. Mae’n fwyaf enwog am y gweithiau mosaig euraidd ysblennydd uwchlaw’r fynedfa ac yn y cromenni. Yn anffodus, nid yw pob rhan o’r eglwys gadeiriol yn agored i’r cyhoedd oherwydd bod cynifer o ymwelwyr yn tyrru yma bob blwyddyn. Mae’r ymweliad â’r tu mewn yn cymryd tua deng munud ac nid oes hawl mynd â bagiau i mewn i’r adeilad. Rhaid eu gadael nhw yn y loceri bagiau cyfagos. Codir tâl mynediad bach wrth i chi fynd i mewn i’r basilica.