Biennale Celf Fenis
4th March 2019
|By aclouise
Biennale Fenis yw’r digwyddiad pwysicaf yn nyddiadur celfyddyd gyfoes llawer. Mae’r wyl gelfyddyd, cerddoriaeth a drama yn denu artistiaid o dros 70 gwlad ac mae’n brofiad aml-gyfrwng ac aml-ddiwylliant gwefreiddiol. Mae’r Biennale Celf yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd. Mae’n cael ei gynnal am yn ail â’r Biennale Pensaernïaeth ac fe gynhelir Biennales ar wahân ar gyfer cerddoriaeth, dawns a ffilm hefyd. Cysylltwch â ni am restr lawn o arddangosiadau a sioeau.