Palas Doge (Palazzo Ducale)

Roedd gan Balas Doge ran bwysig iawn yng Ngweriniaeth Fenis fel cartref y Doge – y dug – ac adrannau’r llywodraeth. Cafodd hyd yn oed ei ddefnyddio fel carchar y weriniaeth. Mae’r adeilad ei hun yn enghraifft drawiadol a phrin o bensaernïaeth Gothig Fenisaidd. Gellir gweld paentiadau enwog fel Paradiso gan Tintoretto, un o’r paentiadau olew mwyaf yn y byd, yn ystafelloedd crand y palas. Mae’r Ponte dei Sospiri (Pont yr Ocheneidiau) adnabyddus, lle gellid clywed ocheneidiau’r carcharorion yn ôl y chwedl, yn cysylltu’r Carchardai Newydd â’r Hen Garchardai, lle’r oedd carcharorion yn cael eu cadw pan oedd y Carchardai Newydd yn llawn.