Piazza San Marco

Y sgwâr bywiog hwn sy’n llawn trysorau pensaernïol yw un o’r atyniadau mwyaf adnabyddus yn y byd. Yn arbennig, mae twr y cloc yn werth ei weld. Mae’r sgwâr bob amser yn llawn ymwelwyr yn mwynhau’r awyrgylch ac yn edmygu’r golygfeydd. Serch hynny, mae’r sgwâr yn anferth felly’n anaml iawn y mae’n teimlo’n orlawn. Gair i gall – bydd yn rhaid i chi dalu crocbris am goffi yn un o’r bariau deniadol sydd â golygfeydd ysblennydd o’r gamlas! Saif y sgwâr ar un o rannau isa’r ddinas ac felly mae’n un o’r ardaloedd cyntaf i ddioddef llifogydd os oes acqua alta, pan fo cymaint o ddwr yn y gamlas nes ei fod yn gorlifo ar y strydoedd.