Yr Amgueddfa wydr, Ynys Murano
Mae’r diwydiant gwaith gwydr wedi bod yn bwysig i economi Fenis erioed a rhoddwyd breintiau arbennig i weithwyr gwydr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, fel yr hawl i wisgo cleddyfau a breintryddid rhag cael eu herlyn. Nhw oedd yr unig bobl yn y byd a oedd yn gwybod sut i wneud drychau ac fe ddatblygon nhw dechnegau newydd unigryw megis creu gwydr amryliw. Mae gwydr Murano’n gyffredin yn Fenis a’r cyffiniau ac wrth grwydro ynys fechan Murano rydych chi’n siwr o ddod ar draws ffatri lle gallwch chi weld sut mae gwydr yn cael ei gynhyrchu heddiw. Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am ddatblygiad y diwydiant, mae’r amgueddfa hon yn gartref i’r casgliad mwyaf o wydr Murano yn y byd, sy’n cynnwys gweithiau gwydr o’r bymthegfed ganrif a gweithiau cyfoes.