Campanile di San Marco (Y Clochdy)
4th March 2019
|By aclouise
Y clochdy o’r 10fed ganrif y tu allan i Basilica di San Marco yw un o nodweddion pensaernïol enwocaf Fenis. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1902, fe ddymchwelodd yn ddirybudd a bu’n rhaid ei ailadeiladu dros gyfnod o ddeng mlynedd. Ewch yn y lifft i frig y twr i fwynhau golygfeydd bendigedig o’r lagwn.