Port Aventura
Parc thema cyffrous sy'n eiddo i Universal Studios yw Port Aventura, lle gallwch fwynhau certiau sglefrio, reidiau dwr, pum ardal thema a sioeau o bob math. Hwyl i bawb o bob oed! Mae'r parc hefyd yn cynnig rhaglenni addysgiadol trwy gyfrwng llyfrau pwrpasol ar gyfer Astudiaethau Busnes a Sbaeneg. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
Water World
Mae Water World Lloret de Mar yn cynnig hwyl a sbri ac ambell i wlychfa. Mae yma bob math o weithgareddau dwr - rafftio ar afon, certiau sglefrio trwy ddwr, sleidiau dwr, pyllau â thonnau, trobyllau a phyllau i'r teulu. Os oes yn well gennych chi aros ar dir sych, gallwch ddangos eich doniau ar y cwrs golff mini.
Montserrat
Encilfa i Fynachod Benedictaidd yn y mynyddoedd uwchlaw Barcelona yw Montserrat lle gallwch fwynhau golygfeydd eithriadol o Gatalunya. Sefydlwyd y Mynachdy ar safle lle y dywedwyd i'r Forwyn Fair ymddangos. Saif mewn safle gwych yng nghanol y mynyddoedd garw a gellir ei gyrraedd ar reilffordd gul. Gallwch fwynhau perfformiad gan fechgyn côr Montserrat, sy'n fyd-enwog am ganu salmdonau Gregoraidd, am ddim yn y Basilica am 13:00 bob dydd.
Pentre'r Gemau Olympaidd
Cafodd Barcelona hwb enfawr pan gynhaliwyd y Gemau Olympaidd yno ym 1992. Roedd yn gyfle i ddatblygu system drafnidiaeth dan ddaear a chreu'r Pentref gwych ar gyfer y cystadleuwyr. Dyma hefyd oedd y Gemau Olympaidd cyntaf ers cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, aduno'r Almaen a diwedd polisïau apartheid llym yn Ne Affrica. Daeth 10,563 o athletwyr o 172 gwlad i gystadlu yma, sef y nifer uchaf erioed bryd hynny. Mae'r ganolfan yn parhau'n atyniad poblogaidd, gyda llawer o fariau a thai bwyta yn yr harbwr Olympaidd. Gallwch gael taith dywys o amgylch Pentre'r Gemau Olympaidd a gweld Neuadd Chwaraeon Palau Sant Jordi, y Stadiwm Olympaidd a'r Cylch Olympaidd.
Taith Dywys y Nou Camp
Mae'r stadiwm hefyd yn cynnig taith dywys lle gallwch ymweld ag ystafelloedd newid y gwrthwynebwyr, cerdded lawr y twnnel a chrwydro'r maes. Gallwch weld lle mae'r garfan yn eistedd ar ymyl y cae a mwynhau golygfa wych o'r stadiwm, ymweld â'r stiwdio deledu, ystafelloedd y wasg ac ystafelloedd y cyfarwyddwr.
Amgueddfa Clwb Pêl Droed Barcelona
Mae'r Amgueddfa Hanes yn stadiwm wych clwb pêl-droed Barcelona yn olrhain hanes hir a llwyddiannus y clwb. Gallwch weld y tlysau di-ri y mae'r clwb wedi'u hennill, archifau ffotograffau, deunydd chwaraeon a sioeau clyweled. Yn yr Oriel Gelf gallwch weld gweithiau rhai o artistiaid enwocaf Sbaen, gan gynnwys Dalí a Miró, sydd wedi'u cyflwyno i'r clwb dros y blynyddoedd. Y Collecció Futbolart - arddangosfa Pablo Ornaque - yw un o'r casgliadau preifat gorau o wrthrychau pêl-droed.
Taith Dywys
Y ffordd orau o wneud y gorau o'r ddinas yw drwy adael y cyfan yn nwylo'r arbenigwyr. Cewch eich tywys trwy'r strydoedd canoloesol troellog, gweld tai Gaudí a chrwydro Las Ramblas.
Parc Güell
Mae'r parc hudol a swrreal hwn, sydd wedi'i addurno'n helaeth â gwaith carreg a mosaig, yn lle gwych i gael blas ar arddull y pensaer neu fynd am dro, bwyta picnic neu dreulio amser yn arlunio.
Ymweliadau cysylltiedig eraill: Gall y cyhoedd ymweld â thai Gaudí o bryd i'w gilydd. Ei brosiect olaf cyn mynd ati i adeiladu'r Sagrada Familia (na lwyddodd i'w gorffen) oedd Casa Milà, neu La Pedrera fel y'i gelwir weithiau. Adeiladwyd yr adeilad ar gornel ac fe'i rhannwyd yn wyth fflat preifat. Nid oes yr un o'r waliau y tu mewn i'r adeilad yn syth. Gallwch gael taith dywys o'r adeilad a'r teras to.
La Sagrada Familia
Campwaith Gaudí, sydd dal heb ei orffen, yw symbol unigryw'r ddinas. Dringwch y meindyrau ysblennydd i weld golygfeydd o'r ddinas yn ogystal â'r ffigyrau adar ac anifeiliaid sy'n cuddio yn y gwaith carreg cain. Bu farw Gaudí cyn i'r eglwys gael ei chwblhau ac mae rhannau ohoni'n dal i gael eu hadeiladu.
Salvador Dalí - Theatre Museum Figueres
Ailadeiladodd Dalí yr hen theatr drefol yn Figueres gan greu ei 'Theatre-Museum' ei hun a'r gwrthrych swrrealaidd mwyaf yn y byd. Ochr yn ochr â'i waith ei hun, roedd Dalí'n arddangos gweithiau artistiaid eraill fel El Greco a Mari Fortuny. Aeth ati i greu gweithiau arbennig ar gyfer y Theatre-Museum, fel Ystafell Mae West, Ystafell Wind Palace, y Gofeb i Francesc Pujols a'r Rainy Cadillac. Mae Dalí wedi ei gladdu yn yr amgueddfa. Mae'r amgueddfa'n canolbwyntio ar addysg ac mae teithiau tywys addas i bob grŵp oed ar gael yn Saesneg neu Sbaeneg.
Ymweliadau cysylltiedig: Gala Dalí Castle yn Púbol - arddangosfa o weithiau celf a roddwyd i Gala gan ei gwr, Salvador Dalí; tŷ Dalí yn Portlligat, Cadaques - hafan i lawer o artistiaid enwog Sbaen.
Museu Nacional d'Art de Catalunya
Mae amgueddfa gelf genedlaethol Catalunya wedi'i lleoli yn y palas cenedlaethol neu'r 'Palau National' ar fryn Montjuic. Yma cewch weld celfyddyd Gatalanaidd a rhyngwladol o Oes y Rhufeiniaid, yr Oesoedd Canol a'r Oes Fodern. Dyma'r casgliad mwyaf o gelfyddyd Rufeinig yn y byd. Gallwch hefyd weld arddangosfeydd sy'n trin a thrafod portreadau, ffotograffiaeth a'r cyfnod rhwng y Chwyldro Diwydiannol a Rhyfel Cartref Sbaen.
Museu d'Art Contemporani
Mae'r amgueddfa hon o gelfyddyd gyfoes yn cynnwys llawer o weithiau gan artistiaid Catalanaidd, Sbaenaidd a rhyngwladol. Mae'r arddangosfa'n bwrw golwg gynhwysfawr ar elfennau sylfaenol celfyddyd gyfoes, gan adlewyrchu themâu gwleidyddol a diwylliannol o bob math.
Fundación Joan Miró
Yma cewch edmygu paentiadau a thapestrïau a roddwyd gan yr arlunydd Catalanaidd enwog, Joan Miró. Mae hefyd arddangosfa newidiol o waith artistiaid cyfoes ifanc.
Amgueddfa Picasso
Mae'r amgueddfa'n olrhain holl gyfnodau pwysig gyrfa Picasso, yr arlunydd o fri. Cewch weld gweithiau o'i blentyndod, darnau o'i gyfnodau glas a phinc ac enghreifftiau o'i waith haniaethol ciwbaidd. Os ydych chi'n hoffi gwaith Picasso, dyma'r amgueddfa i chi.