Museu Nacional d’Art de Catalunya

Mae amgueddfa gelf genedlaethol Catalunya wedi’i lleoli yn y palas cenedlaethol neu’r ‘Palau National’ ar fryn Montjuic. Yma cewch weld celfyddyd Gatalanaidd a rhyngwladol o Oes y Rhufeiniaid, yr Oesoedd Canol a’r Oes Fodern. Dyma’r casgliad mwyaf o gelfyddyd Rufeinig yn y byd. Gallwch hefyd weld arddangosfeydd sy’n trin a thrafod portreadau, ffotograffiaeth a’r cyfnod rhwng y Chwyldro Diwydiannol a Rhyfel Cartref Sbaen.