La Sagrada Familia

Campwaith Gaudí, sydd dal heb ei orffen, yw symbol unigryw’r ddinas. Dringwch y meindyrau ysblennydd i weld golygfeydd o’r ddinas yn ogystal â’r ffigyrau adar ac anifeiliaid sy’n cuddio yn y gwaith carreg cain. Bu farw Gaudí cyn i’r eglwys gael ei chwblhau ac mae rhannau ohoni’n dal i gael eu hadeiladu.