Parc Güell
27th February 2019
|By aclouise
Mae’r parc hudol a swrreal hwn, sydd wedi’i addurno’n helaeth â gwaith carreg a mosaig, yn lle gwych i gael blas ar arddull y pensaer neu fynd am dro, bwyta picnic neu dreulio amser yn arlunio.
Ymweliadau cysylltiedig eraill: Gall y cyhoedd ymweld â thai Gaudí o bryd i’w gilydd. Ei brosiect olaf cyn mynd ati i adeiladu’r Sagrada Familia (na lwyddodd i’w gorffen) oedd Casa Milà, neu La Pedrera fel y’i gelwir weithiau. Adeiladwyd yr adeilad ar gornel ac fe’i rhannwyd yn wyth fflat preifat. Nid oes yr un o’r waliau y tu mewn i’r adeilad yn syth. Gallwch gael taith dywys o’r adeilad a’r teras to.