Salvador Dalí – Theatre Museum Figueres
27th February 2019
|By aclouise
Ailadeiladodd Dalí yr hen theatr drefol yn Figueres gan greu ei ‘Theatre-Museum’ ei hun a’r gwrthrych swrrealaidd mwyaf yn y byd. Ochr yn ochr â’i waith ei hun, roedd Dalí’n arddangos gweithiau artistiaid eraill fel El Greco a Mari Fortuny. Aeth ati i greu gweithiau arbennig ar gyfer y Theatre-Museum, fel Ystafell Mae West, Ystafell Wind Palace, y Gofeb i Francesc Pujols a’r Rainy Cadillac. Mae Dalí wedi ei gladdu yn yr amgueddfa. Mae’r amgueddfa’n canolbwyntio ar addysg ac mae teithiau tywys addas i bob grŵp oed ar gael yn Saesneg neu Sbaeneg.
Ymweliadau cysylltiedig: Gala Dalí Castle yn Púbol – arddangosfa o weithiau celf a roddwyd i Gala gan ei gwr, Salvador Dalí; tŷ Dalí yn Portlligat, Cadaques – hafan i lawer o artistiaid enwog Sbaen.