Pentre’r Gemau Olympaidd
27th February 2019
|By aclouise
Cafodd Barcelona hwb enfawr pan gynhaliwyd y Gemau Olympaidd yno ym 1992. Roedd yn gyfle i ddatblygu system drafnidiaeth dan ddaear a chreu’r Pentref gwych ar gyfer y cystadleuwyr. Dyma hefyd oedd y Gemau Olympaidd cyntaf ers cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, aduno’r Almaen a diwedd polisïau apartheid llym yn Ne Affrica. Daeth 10,563 o athletwyr o 172 gwlad i gystadlu yma, sef y nifer uchaf erioed bryd hynny. Mae’r ganolfan yn parhau’n atyniad poblogaidd, gyda llawer o fariau a thai bwyta yn yr harbwr Olympaidd. Gallwch gael taith dywys o amgylch Pentre’r Gemau Olympaidd a gweld Neuadd Chwaraeon Palau Sant Jordi, y Stadiwm Olympaidd a’r Cylch Olympaidd.