Taith Dywys y Nou Camp

Mae’r stadiwm hefyd yn cynnig taith dywys lle gallwch ymweld ag ystafelloedd newid y gwrthwynebwyr, cerdded lawr y twnnel a chrwydro’r maes. Gallwch weld lle mae’r garfan yn eistedd ar ymyl y cae a mwynhau golygfa wych o’r stadiwm, ymweld â’r stiwdio deledu, ystafelloedd y wasg ac ystafelloedd y cyfarwyddwr.